top of page
Panto sgwar.png

Mae'r Nadolig wedi cyrraedd Plas y Rhiw, ac mae Ledi Siw, Bili, Gwenhwyfar a Taid wrthi'n brysur yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth flynyddol 'Trimings Dolig Gora' Môn'. Ond mae 'na leidr anhysbys o gwmpas y lle yn trio rhwystro Siw a'r criw rhag ennill y gystadleuaeth. A fyddwn ni'n dod i wybod pwy yw'r lleidr? Fydd modd atal y lleidr rhag difetha'r Nadolig?

 

Tachwedd / Rhagfyr 2022

Pantomeim Lleidr Plas y Rhiw

Noson yng Nghwmni Heddwen Lloyd Williams

Heddwen Insta.png

Dewch i ymuno mewn noson yng nghwmni Heddwen Lloyd Williams.

Bydd y noson yn cael ei chynnal yn ystafell Fisher y Theatr.

​

Bydd diodydd a thocynnau raffl yn cael eu gwerthu

​

Dyddiad - Tachwedd 2022.

​

Noson Gomedi.png

Dewch i chwerthin lond eich boliau yn Theatr Fach Llangefni wrth i ni gynnal ein Noson Gomedi fel rhan o ddathliadau Gŵyl Cefni 2022. 

Mae llu o artistiaid yn rhan o'r noson, a bydd arlwy arbennig iawn ar eich cyfer.​

Mae'r digwyddiad hwn i bobl sydd dros 18 oed yn unig

​

Dyddiad - Mehefin 2022.

​

Noson Gomedi : Gŵyl Cefni x Theatr Fach

2.png

Gweithdy sgriptio hanner diwrnod yng nghwmni'r awdur a'r dramodydd amryddawn, LlÅ·r Titus.

​

Dyddiad - Mai 2022

​

Gweithdy Sgriptio : LlÅ·r Titus

gwion aled terf.png

Dyma gyfle arbennig i ymuno â gweithdy actio am ddim yn ystod gwyliau'r Pasg dan gyfarwyddyd yr actor Gwion Aled.

​

Bydd y sesiwn yma i blant cynradd rhwng blynyddoedd 3 a 6.

​

Dyddiad - Ebrill 2022

​

Gweithdy Actio : Gwion Aled

19.png

Ymunwch â ni yn Theatr Fach Llangefni i ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi 2022 mewn Noson Lawen arbennig.

​

Mae llu o artistiaid yn rhan o'r noson, a bydd arlwy arbennig iawn ar eich cyfer.

​

Un noson yn unig fydd hon, felly cofiwch brynu eich tocynnau yn fuan.

​

Dyddiad - Mawrth 2022

Noson Lawen - Theatr Fach

bottom of page