DIGWYDDIADAU
Digwyddiad i’r teulu cyfan ac yn gyfle i bawb ddod ynghyd i wylio drama newydd, cyffrous gan y dramodydd Alun Saunders sydd yn ymdrin â hunaniaeth Gymreig a’r iaith Gymraeg trwy lygaid tri pherson ifanc.
​
Dydd Sadwrn 2 Tachwedd - 11:30 + 14:30
Taith Arfor - Cymrix
Mae Lloyd George yn mwynhau seibiant dros ei beint a’i bapur newydd yn nhafarn hynafol Y Penlan Fawr ym Mhwllheli pan ddaw ei hen ‘gyfaill’, Adolf Hitler, heibio. Mae’r ddau yn rwdlian, yn hel atgofion, yn ffraeo ac yn rhoi John ac Alun ar y jukebox…
Drama absẃrd am hanes, hen ddynion, a chysgod eu gweithredoedd drosom ni’i gyd…
​
Nos Fercher 6 Tachwedd - 19:30​
1936
14+
***Cynhyrchiad Saesneg
​
Arhosodd Jack ar faes y gad, roedd sŵn y gynnau wedi tawelu, arhosodd yno i chwilio am y bechgyn na all fynd adref, ond erbyn hyn, mae cais rhyfedd yn dod gan y cadfridogion.
Stori am frawdgarwch, brad ac addewidion gafodd eu torri yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Nos Wener 8 Tachwedd - 19:30