Hanes y Theatr
Theatr Fach Llangefni yw un o theatrau hanesyddol a mwyaf eiconig Cymru. Agorwyd drysau’r theatr ym 1955 ac mae wedi bod yn llwyfan ar gyfer dramâu, pantomeimiau a chyngherddau yn ddi-dor ers hynny. O’r cychwyn cyntaf gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal y theatr. Mae iddi hanes cyfoethog ond â’i llygaid ar y dyfodol a heb fod ofn arbrofi a rhoi cyfle i dalent newydd.
Y mae wedi’i lleoli yng nghanol y gymuned yn Llangefni, ac yn ymroddedig i ddarparu adloniant a chyfleoedd i drigolion Ynys Môn a thu hwnt yn ogystal â chynnig llwyfan i gwmnïau ac artistiaid amrywiol ledled Cymru. Mae rhywbeth i blesio pobl o bob oedran yma. Gyda gweithdai drama, pantomeimiau, dramâu cyfoes, clasuron y theatr Gymraeg a sioeau comedi yn rhan o’r arlwy, bydd rhwybeth yn sicr at eich dant yn Theatr Fach Llangefni.
Eisiau dod i nabod y wynebau tu ôl i'r theatr - dyma'r Pwyllgor Rheoli






